Tien Shan
Gwedd
| Math | cadwyn o fynyddoedd |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Cirgistan, Casachstan, Gweriniaeth Pobl Tsieina |
| Gwlad | Cirgistan, Casachstan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Wsbecistan |
| Uwch y môr | 7,439 metr |
| Cyfesurynnau | 42.0375°N 80.1253°E |
| Hyd | 2,500 cilometr |
| Cyfnod daearegol | Defonaidd |
![]() | |
Mynyddoedd o gwmpad y ffin rhwng Casachstan, Cirgistan a thalaith Sinkiang yng Ngweriniaeth Pobl Tsieina yw'r Tien Shan neu Tian Shan (Tsieineeg: 天山; Tiān Shān).
Y copaon uchaf yn y Tien Shan yw Copa Jengish Chokusu ("Copa Buddugoliaeth", Pik Pobedy, Ğeňiš Čokusu 7439 m) a Chan Tengri (7010 m). Rhwng y ddau fynydd yma ceir rhewlif Eňilček, y mwyaf yn y Tien Shan.
Y Tien Shan sy'n gwahanu dalgylchoedd afonydd Tarim ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol a'r Ili, y Syr Darja a'r Čüj (Şu) ar yr ochr ogledd-orllewinol. Yn y de-orllewin, mae'r Tien Shan yn parhau fel y Pamir, ac yn y gogledd-ddwyrain fel y Bogda Shan. Y prif fwlch trwy'r mynyddoedd yw Bwlch Torugart (3752 m.).
