Capel Seion, Llanrhaeadr-ym-Mochnant
Gwedd
| Math | capel |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Seion |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Llanrhaeadr-ym-Mochnant |
| Sir | Powys |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 153.8 metr |
| Cyfesurynnau | 52.8252°N 3.30401°W, 52.825255°N 3.304026°W |
| Cod post | SY10 0JP |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Manylion | |
Capel yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, Cymru, yw Capel Seion. Ailadeiladwyd y capel Methodus hwn ar ddechrau'r 1900au yn arddull y Mudiad Celf a Chrefft.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Agorwyd y capel gwreiddiol yn y flwyddyn 1834. Ychwanegwyd ystafelloedd dosbarth ar gyfer yr Ysgol Sul yn 1870. Yn 1892 ychwanegwyd tŷ capel ac adeilad ar wahân ar gyfer yr Ysgol Sul.[1]
Yn 1904 ailadeiladwyd adeilad y capel, wedi'i gynllunio gan y penseiri Shayler a Ridge o Groesoswallt. Mae'n gapel o waith carreg gyda tho o lechi yn arddull Gothig y Mudiad Celf a Chrefft.[1]
Dynodwyd Capel Seion yn adeilad rhestredig Gradd II*. Fe'i ystyrir "yn gapel Mudiad Celf a Chrefft arbennig o gain ac yn un o'r enghreifftiau gorau o'i fath yng Nghymru."[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.119–20
